Cytundeb newydd i Ben Davies

Ben Davies Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraeodd Ben Davies 44 o gemau i Abertawe y tymor diwethaf

Mae cefnwr Abertawe a Chymru, Ben Davies, wedi arwyddo cytundeb newydd fydd yn ei gadw yn Stadiwm Liberty tan 2017.

Roedd cytundeb presennol y chwaraewr 20 oed yn dod i ben yn 2016.

Bellach mae Davies yn un o berfformwyr mwyaf cyson y clwb wedi iddo gael ei ddyrchafu i'r tîm cyntaf pan dorrodd Neil Taylor ei goes ym Medi 2012.

Ar y pryd roedd yn ennill cyflog o £400 yr wythnos ond fe gafodd gynnig cytundeb gwell bron yn syth.

Roedd yn aelod cyson o'r tîm enillodd Gwpan Capital One y tymor diwethaf ac a orffennodd yn nawfed yn yr Uwchgynghrair.

Wrth arwyddo'r cytundeb newydd dywedodd Davies:

"Doedd hwn ddim yn benderfyniad anodd o gwbl ac mae'n wych cael cytundeb newydd a chynnig fy nyfodol i'r clwb.

"Mae hwn yn lle gwych i ddysgu a gwella, ac mae'n dda cael gwobr am y gwaith yr wyf wedi ei wneud."