Gwrthdrawiad Bedwas: Enwi'r ddynes fu farw

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes fu farw mewn damwain rhwng car Peugeot 306 coch a beic modur brynhawn Llun ym Medwas ger Caerffili.

Bu farw Claire Victoria Franklin, 40 oed o Gaerffili, yn y fan a'r lle a hi oedd y teithiwr ar y beic modur.

Mae gyrrwr y beic modur, dyn 31 oed o Gaerffili, mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Cafodd gyrrwr 33 oed y car o ardal Abertyleri ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Dylai tystion neu unrhywun welodd y car neu'r beic modur cyn y gwrthdrawiad ffonio'r heddlu ar 101, gan ddyfynnu 407 23/12/13.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.