Protestiwr Greenpeace ar ei ffordd adre

Anthony Perrett Image copyright AP
Image caption Anthony Perrett yn dangos y pasport a gafodd ei roi yn ôl iddo

Mae ymgyrchydd gyda mudiad Greenpeace sydd wedi bod yn Rwsia ers iddo gael ei arestio yn dilyn protest yno yn paratoi i ddychwelyd i Gymru.

Roedd Anthony Perrett, 32 oed o Gasnewydd, ymhlith 30 o bobl gafodd eu cadw yn y ddalfa oherwydd honiad o hwliganiaeth.

Fe gafon nhw'u cadw yn y carcahr am ddeufis, ond maen nhw bellach wedi derbyn amnest gan yr awdurdodau yn Rwsia.

Treuliodd Mr Perrett y Nadolig yn St Petersburg, ond mae bellach wedi cael ei basport yn ôl ac yn paratoi i ddod adref.

Cafodd y protestwyr eu harestio yn dilyn gweithredu ar blatfform olew yn yr Arctig sy'n perthyn i gwmni Gazprom o Rwsia ym mis Medi.

Dywedodd Mr Perrett - oedd yn un o'r cyntaf o'r protestwyr i gael ei rhyddhau ar fechnïaeth ym mis Tachwedd - mai cael ei basport yn ôl oedd "y cam olaf".

"Byddaf yn gadael am Gymru cyn gynted â phosib ac rwy'n falch iawn o'r hyn a wnes i dri mis yn ôl," meddai.

"Fe wnaethon ni weithredu'n heddychlon i warchod rhan o'r byd sydd yn guriad calon yr hinsawdd.

"Mae'r Arctig yn fesur o iechyd ein planed ac rwy'n gwrthod aros yn dawel wrth i gwmnïau olew wneud elw o'i ddinistrio."

Cafodd Mr Perrett wybod ar noswyl Nadolig bod y camau cyfreithiol yn ei erbyn yn cael eu gollwng.

Dywedodd Greenpeace bod y protestwyr nad oedd yn hanu o Rwsia yn disgwyl gadael y wlad dros y dyddiau nesaf.

Straeon perthnasol