Wycombe 0-1 Casnewydd

Clwb Pêl-droed Casnewydd Image copyright Other

Wycombe Wanderers 0-1 Casnewydd

Aeth Casnewydd i mewn i'r tri uchaf yn nhabl Adran 2 am gyfnod yn dilyn buddugoliaeth yn Wycombe.

Hon oedd yr ail fuddugoliaeth oddi cartref yn olynol i dîm Justin Edinburgh, ac mae'n ymestyn rhediad Casnewydd i chwe gêm heb golli yn y gynghrair.

Ychydig dros hanner awr oedd wedi ei chwarae pan aeth Casnewydd ar y blaen.

Michael Flynn oedd wrth law i osod y bêl yn daclus i gornel ucha'r rhwyd yn dilyn gwaith da gan David Pipe.

Nid dal eu gafael ar y pwyntiau wnaeth yr Alltudion - Casnewydd oedd yn gyfrifol am fwyafrif y chwarae gydaol y gêm - ond gyda thri munud yn weddill roedd rhaid i'r golwr Lenny Pidgeley fod ar ei orau i arbed cynnig Stuart Lewis i'r tîm cartref.

Hon oedd y gêm gynnar ddydd Iau, ond fe fydd codi i safle lle fyddan nhw'n ennill dyrchafiad - hyd yn oed am gyfnod byr - yn siwr o fod yn hwb i Gasnewydd yn eu tymor cyntaf yn ôl yn y gynghrair bêl-droed.