Scarlets 6-10 Gweilch

Pro 12

Scarlets 6-10 Gweilch

I'r cefnogwyr ddaeth i Barc y Scarlets ar Ŵyl San Steffan roedd digon o rygbi caled i'w cyffroi.

Dim ond gôl gosb gan Rhys Priestland oedd yn gwahanu'r ddau dim ar yr egwyl, ond camgymeriad fyddai credu mai canlyniad gêm ddiflas oedd y sgôr isel yna.

Mewn gêm gorfforol fe gafwyd digon o rygbi agored gyda chyfleoedd i'r ddau dîm, ond fe welwyd amddiffyn gwych hefyd i rwystro ceisiau.

Ciciwr gorau'r tymor hyd yma yn y Pro12 yw Dan Biggar, ond mi fethodd yntau gyda dau gynnig at y pyst, ac fe fanteisiodd Priestland ar hynny gan ychwanegu ei ail gôl gosb yn gynnar yn yr ail hanner i ddyblu mantais y Scarlets.

Fe lwyddodd Biggar gyda'i drydedd ergyd i gau'r bwlch, gan arwain at funudau cloi dramatig.

A gyda saith munud yn weddill fe dalodd pwysau'r Gweilch o'r diwedd.

Ian Evans lwyddodd i wthio'i ffordd dros y llinell gais i roi'r Gweilch ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm, ac fe drosodd Biggar i sicrhau bod angen cais ar y Scarlets i ennill yn hytrach na chic gosb.

Pan welodd Alun Wyn Jones gerdyn melyn tua'r diwedd fe ddaeth sawl cyfle am y cais yna i'r Scarlets, ond tro'r Gweilch oedd amddiffyn yn arwrol i gadw'r tîm cartref allan ac ennill y gêm

Roedd y gêm yn wledd i'r bron 15,000 o gefnogwyr ddaeth i Barc y Scarlets, ond y cefnogwyr cartref gafodd eu siomi.