Protest cyn i Gaerdydd golli eto

protest cefnogwyr Image copyright Getty Images
Image caption Daeth tua 500 o gefnogwyr i ddangos eu hanfodlonrwydd gyda'r perchennog cyn y gêm

Yn dilyn y cyfnod cythryblus diweddar yn Stadiwm Dinas Caerdydd, fe gafodd y sylw ei dynnu o'r gêm gan brotest o flaen llaw.

Daeth oddeutu 500 o gefnogwyr Caerdydd i brotestio yn erbyn y perchennog Vincent Tan, ac i ddangos eu cefnogaeth i'r rheolwr Malky Mackay.

Ddechrau'r wythnos ddiwethaf fe gafodd Mackay e-bost gan y perchennog yn dweud wrtho am ymddiswyddo neu gael y sac, ac er i'r argyfwng yna gael ei ddatrys dros dro, mae dyfodol Mackay yn dal yn ansicr.

Mae'n ansicrach fyth yn dilyn perfformiad tila yn erbyn Southampton.

Roedd Caerdydd dair gôl ar ei hôl hi wedi llai na hanner awr.

Jay Rodriguez gafodd y ddwy gyntaf i'r ymwelwyr wedi 14 ac 20 munud, ac roedd Ricky Lambert wedi ychwanegu'r drydedd wedi 27 munud.

Fe fydd y canlyniad yn siom aruthrol i Mackay a'r cefnogwyr, ond yn waeth na hynny oedd na lwyddodd Caerdydd ar daro ergyd gywir at y gôl gydol y gêm.

Yr ymwelwyr nesaf i Stadiwm Dinas Caerdydd yw'r tîm sydd ar waelod yr Uwchgynghrair, Sunderland, ac mae'n hanfodol iddyn nhw ennill bryd hynny.

Mae dyfodol Malky Mackay yn dibynnu ar hynny, ond hefyd dyfodol Caerdydd yn yr Uwchgynghrair gan eu bod bellach un safle uwchben y tri isaf sy'n disgyn o'r brif adran ar ddiwedd y tymor.

Llwyddodd y tri gwaelod ar ddechrau'r diwrnod i gyd ennill ac fe fydd ail hanner y tymor yn heriol i'r Adar Gleision.