Wrecsam 2-3 Alfreton

Cae Ras Wrecsam

Wrecsam 2-3 Alfreton

Roedd hi'n gêm y gallai Wrecsam fod wedi ennill, ond yn y diwedd mae eu tymor siomedig yn parhau.

Wedi hanner cyntaf di-sgôr, fe aeth Wrecsam ar y blaen yn haeddiannol yn erbyn y tîm ddechreuodd y dydd yn y pumed safle yn Uwchgynghrair Skrill.

Daeth Alfreton yn gyfartal wedi 73 munud pan sgoriodd Wylde, ac felly yr arhosodd hi tan bum munud cyn y chwib olaf.

Yna daeth y ddrama. Alfreton aeth ar y blaen wedi 85 munud gyda gôl gan Akinde, ond ddau funud yn ddiweddarach roedd hi'n ymddangos fel pe byddai Wrecsam yn dianc gyda phwynt wrth i Clowes ddod â nhw'n gyfartal.

Roedd y dyfarnwr wedi nodi y byddai chwe munud yn cael eu hychwanegu at ddiwedd y gêm am anafiadau, ac roedd pump o'r munudau yna drosodd pan aeth Alfreton ar y blaen unwaith eto.

Chris Westwood beniodd i'r rhwyd, a doedd dim digon o amser yn weddill i Wrecsam achub y gêm.