Dod o hyd i gorff ar draeth ym Mhorthcawl

Mae'r gwasanaethau brys wedi dod o hyd i gorff dyn lleol 24 oed ar draeth ym Mhorthcawl wedi i Wylwyr y Glannau gael galwad fore Gwener.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Fe gawson ni alwad am 9.38am. Roedd adroddiadau fod y dyn ar goll y bore 'ma.

"Ar yr adeg hon dyw'r amgylchiadau ddim yn amheus ac mae ein hymchwiliadau ni'n parhau."