Clwb Pêl-droed Wrecsam yn dathlu 150 mlynedd

Bathodynnau clwb Wrecsam Image copyright Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam
Image caption Mae'r clwb wedi creu arfbais arbennig i nodi'r achlysur a'r dathliadau 150 mlynedd

Bydd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn dathlu 150 mlynedd ers ei sefydlu gyda chyfres o ddigwyddiadau yn y flwyddyn newydd.

Mae arfbais newydd wedi cael ei greu i nodi dathliadau clwb proffesiynol hynaf Cymru.

Fe gafodd hanes y clwb ei ail-ysgrifennu yn 2012 pan awgrymodd gwaith ymchwil fod y clwb wedi cael ei sefydlu yn 1864 ac nid yn 1873 fel yr oedd pobl wedi credu ers degawdau.

Gyda'r clwb bellach yn eiddo i'r cefnogwyr, fe fyddan nhw'n trefnu cyfres o ddigwyddiadau cymunedol yn ystod y flwyddyn i ddod.

Dywedodd Spencer Harris, un o gyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam: "Fe fydd hi'n flwyddyn anhygoel.

"Ein gobaith wrth gwrs yw y gallwn ni barhau i lwyddo ar y cae.

"Fe fyddwn ni'n dechrau gyda derbyniad dinesig ym mis Ionawr, ac yna calendr o ddigwyddiadau gan gynnwys gêm ar gyfer enwau mwyaf poblogaidd y gêm gyda nifer o gyn-chwaraewyr yn ymuno gyda lwc."

Cricedwyr

Daeth haneswyr y clwb o hyd i erthygl mewn hen rifyn o bapur newydd y Wrexham Advertiser oedd yn awgrymu bod y clwb wedi ei sefydlu yn 1864 gan aelodau tîm criced lleol.

Penderfynodd y cefnogwyr dderbyn y dyddiad newydd, gan arwain at y dathliadau yn 2014.

Yn gynharach yn y mis fe gyhoeddodd perchnogion stadiwm y Cae Ras - Prifysgol Glyndŵr - y byddan nhw'n uwchraddio'r stadiwm.

Am y tro cyntaf mewn pum mlynedd, fe fydd lle i dros 10,000 o gefnogwyr yn y stadiwm, sydd hefyd yn gartref i glwb rygbi 13 Crusaders Gogledd Cymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.