Aston Villa 1-1 Abertawe

Image copyright PA
Image caption Roland Lamah gafodd y gôl i Abertawe

Aston Villa 1-1 Abertawe

Byddai Abertawe wedi teithio i ganolbarth Lloegr gyda gobaith o gipio triphwynt oherwydd record symol Aston Villa ar eu tomen eu hunain.

Ond er i Abertawe bwyso yn y munudau cynnar, y tîm cartref aeth ar y blaen gyda gôl Gabriel Agbonlahor wedi dim ond saith munud o chwarae.

Roedd Michael Laudrup wedi gwneud sawl newid i'r tîm a gollodd i Chelsea ddeuddydd yn ôl, ac un o'r rheini sgoriodd i ddod ag Abertawe'n gyfartal.

Yn dilyn gwaith da gan Pablo Hernandez, Roland Lamah gododd i benio i'r rhwyd - ei gôl gyntaf erioed yn yr Uwchgynghrair.

Fe gafodd Abertawe 74% o'r meddiant - ffigwr rhyfeddol o uchel mewn gêm Uwchgynghrair - ond mae'r broblem o roi'r bêl yn y rhwyd yn parhau.

Mae pwynt yn well na dim, ond roedd yn gêm y gallai - ac y dylai - Abertawe fod wedi ei hennill.