Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru

Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports Image copyright FAW

Aberystwyth 3-2 Caerfyrddin

Roedd y pwyntiau'n rhai gwerthfawr i Aber, ond y golled yn un gostus i Gaerfyrddin wrth i'r ddau frwydro am le yn y chwech uchaf cyn i'r gynghrair rannu'n ddwy ym mis Ionawr.

Chris Venables gafodd y cyfle i roi Aberystwyth ar y blaen bum munud cyn yr egwyl, ac fe wnaeth hynny.

Ychwanegodd Mark Jones un arall i Aber wedi 56 munud.

Mae Caerfyrddin wedi sgorio goliau hwyr mewn sawl gêm y tymor hwn, ac fe ddaeth un arall wedi 77 munud wrth i Jordan Follows gau'r bwlch.

Er i Gaerfyrddin edrych yn fygythiol yn y munudau cloi, fe sgoriodd Jones un arall i Aberystwyth gyda chwe munud yn weddill i dawelu'r nerfau.

Ond yna fe gafodd Caerfyrddin gic o'r smotyn yn yr amser ychwanegol am anafiadau yn dilyn trosedd ar Cory Jenkins, ac fe sgoriodd Liam Thomas i gau'r blwch drachefn.

Dyna oedd yr olaf wrth i Aberystwyth ddal eu gafael ar bwyntiau pwysig dros ben.

Mae'r canlyniad yn codi Aberystwyth i mewn i chwech uchaf, un pwynt yn unig y tu ôl i Gaerfyrddin er eu bod wedi chwarae un gêm yn fwy.