Caerdydd 2-2 Sunderland

Jordan Mutch Image copyright PA
Image caption Jordan Mutch yn dathlu gôl gyntaf Caerdydd

Caerdydd 2-2 Sunderland

Roedd llygaid yr Uwchgynghrair ar Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn wrth i'r Adar Gleision chwarae am y tro cyntaf ers diswyddo'u rheolwr Malky Mackay ddydd Gwener.

Fel sy'n digwydd yn aml, fe ddaeth newid wrth y llyw â newid ar y cae, a gyda'r dirprwy reolwr David Kerslake yng ngofal y tîm fe ddechreuodd Caerdydd ar dân.

Doedd y funud gyntaf ddim yn un dda i Jordan Mutch. Fe welodd y chwaraewr ifanc gerdyn melyn ar ôl ffugio er mwyn ceisio ennill mantais.

Ar y blaen

Ond wedi chwe munud roedd yn arwr unwaith eto. Fraizer Campbell greodd y cyfle, ac roedd ergyd Mutch o'r tu allan i'r cwrt yn rhy dda i Vito Mannone yn y gôl i'r ymwelwyr ac roedd Caerdydd ar y blaen.

Gan fod Sunderland ar waelod y tabl, roedd hon yn gêm allweddol i Gaerdydd, ac roedd y tîm yn chwarae yn llawn hyder yn y munudau cynnar ac fe allai Campbell a Kim Bo-Kyung fod wedi ychwanegu at y fantais.

Ond fe gafodd Sunderland gyfleoedd wrth i'r hanner fynd yn ei flaen hefyd, ac fe ddaeth Jozy Altidore o fewn trwch blewyn i unioni'r sgôr.

A chyn yr egwyl fe gafwyd cyfle gwych arall i Fabio Borini yn dilyn symudiad da i lawr yr asgell dde, a bu'n rhaid i David Marshall wneud arbediad gwych i'w rwystro.

Ond stori wahanol oedd hi wedi'r egwyl. Roedd 57 munud ar y cloc pan greodd Mutch gyfle gwych arall i Campbell, ond y tro hwn fe darodd y bêl yn daclus i'r rhwyd i ddyblu mantais yr Adar Gleision.

Prawf hwyr

Daeth prawf o ddycnwch Caerdydd pan ddaeth Sunderland yn ôl i mewn i'r gêm, a gydag wyth munud yn weddill fe sgoriodd Steven Fletcher i gau'r bwlch.

Gyda'r ymwelwyr yn taflu popeth at Gaerdydd yn y munudau olaf, roedden nhw'n siwr o greu cyfleoedd.

Arbedodd Marshall yn dda o gynigion gan Fletcher a Roberge, ond gyda chic olaf y gêm bron fe ddaeth un cyfle arall.

A gyda'r gic yna fe ddaeth torcalon i Gaerdydd wrth i Jack Colback rwydo i sicrhau pwynt i'r ymwelwyr a mwy o drafferthion i Gaerdydd.

Straeon perthnasol