Burton Albion 1 - 0 Casnewydd

Clwb Pêl-droed Casnewydd Image copyright Other

Burton Albion 1 - 0 Casnewydd.

Daeth rhediad tîm Justin Edinburgh o chwe gêm heb golled yn Adran Dau i ben yn stadiwm Pirelli ddydd Sul.

Roedd hi'n ddi-sgor ar yr hanner, ond yn hwyr yn yr ail hanner fe sgoriodd un o berfformwyr gorau'r gêm, yr ymosodwr Billy Kee.

Roedd golwr Casnewydd Lenny Pidgley wedi llwyddo i rwystro Albion tan hynny gyda nifer o arbedion ardderchog.

Ond roedd croesiad Matthew Palmer i'r postyn pellaf cystal fel na fedrai Pidgley arbed peniad chwe llathen Kee.

Ar waetha'r golled, mae Casnewydd yn parhau yn y seithfed safle yn y tabl, ac felly'n dal yn y gemau ail gyfle.