Apêl gan deulu dyn sydd ar goll

Rhys Trimby Image copyright Gwent Police
Image caption Dylai unrhywun â gwybodaeth ynghylch Rhys Trimby ffonio 101

Mae teulu dyn a ddiflannodd yn ystod noson allan dros wythnos yn ôl yn pryderu'n gynyddol am ei ddiogelwch ac maen nhw wedi apelio arno i gysylltu â nhw neu'r heddlu i gadarnhau ei fod yn ddiogel.

Does neb wedi gweld Rhys Trimby, 21, o Swffryd yn sir Caerffili, ers iddo adael caffi chwaraeon Harley's yn Oakdale am 22.40 ar 20 Rhagfyr.

Dywedodd ei fod yn mynd i ymweld â ffrindiau yn y Coed Duon.

Roedd Mr Trimby yn gwisgo jîns, trainers brown, a siwmper lwyd gyda phlu eira du ar ei blaen.

Dywed Heddlu Gwent y gallai "materion eraill" yn ymwneud â Mr Trimby gael eu trafod rywbryd eto.

Straeon perthnasol