Dod o hyd i gorff yn Afon Sirhywi

Rhys Trimby
Image caption Roedd Rhys yn 21 oed

Mae corff Rhys Trimby, oedd wedi diflannu pan oedd yn dathlu cyn y Nadolig, wedi ei ddarganfod mewn afon.

Dywedodd yr heddlu fod y corff wedi ei ddarganfod yn Afon Sirhywi ger Stad Ddiwydiannol Nine Mile Point yng Nghwmfelinfach, Sir Caerffili, ddydd Sul.

Roedd yn 21 oed ac o Swffryd a dywedodd yr heddlu nad oedd yr amgylchiadau'n amheus.

Ar Ragfyr 20 roedd wedi gadael Harley's Sports Cafe yn Oakdale am 10:40pm ond ni chyrhaeddodd dŷ ei ffrindiau fel roedd wedi fwriadu wneud.