Cynnal angladd Arglwydd Roberts

Wyn Roberts
Image caption Roedd yn weinidog yn y Swyddfa Gymreig am 18 mlynedd

Mae angladd breifat Arglwydd Roberts wedi cael ei chynnal ym Mae Colwyn.

Roedd wedi bod yn AS Conwy am 27 o flynyddoedd cyn cael ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi.

Bu farw'n 83 oed y mis hwn gan adael ei wraig, Enid, a'i ddau fab ar ei ôl.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron mai ef oedd y "

Roedd wedi bod yn weinidog yn y Swyddfa Gymreig am 18 mlynedd.

Yn etholiad cyffredinol 1987 fe oedd yr unig un o weinidogion y Swyddfa Gymreig a gadwodd ei sedd Seneddol ond ar waetha' ei deyrngarwch i Mrs Thatcher chafodd e ddim ei ddyrchafu i'r cabinet.

Roedd ei gyfraniad ym myd gwleidyddiaeth yn fawr a chwaraeodd ran allweddol wrth warchod buddiannau'r iaith Gymraeg.

Cafodd ei wneud yn Arglwydd Roberts o Gonwy wedi iddo ymddeol o fod yn AS yn 1997 ac fe dreuliodd flynyddoedd wedyn fel llefarydd ar faterion Cymreig yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Straeon perthnasol