Enwi'r ddynes fu farw yn Nant Ffrancon

Nant Ffrancon
Image caption Cafodd corff Ms Hewitt ei ddarganfod ddeuddydd cyn ddiwrnod Nadolig mewn afon yn Nant Ffrancon

Mae Swyddfa'r Crwner wedi enwi'r ddynes y cafodd ei chorff ei ddarganfod mewn afon yn Nant Ffrancon, Bethesda dros gyfnod y Nadolig.

Roedd Susan Hewitt, 50, yn byw yn lleol a chafodd ei chorff ei ddarganfod ddydd Llun diwethaf wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw.

Yn ôl yr heddlu dyw amgylchiadau'r farwolaeth ddim yn amheus.

Dywedodd Paul Smith o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen: "Mae'n debyg bod y ddynes wedi mynd allan i gael golwg ar gyflenwad dŵr ei chartref.

"Ychydig wedi hynny, fe sylwodd ei phartner ei bod hi wedi mynd.

"Dim ond 50 medr o'i chartref mae'r lleoliad lle cafodd hi ei chanfod."

Mae disgwyl i gwêst gael ei gynnal yn y dyfodol agos.

Straeon perthnasol