Ymosodiad ar fenyw 26 oed ym Mhort Talbot

Heddlu
Image caption Heddlu: 'Mae hwn yn ddigwyddiad anarferol ...'

Mae'r heddlu'n apelio am dystion wedi ymosodiad ar fenyw 26 oed wrth iddi gerdded adref wedi noson allan.

Roedd yr ymosodiad yn hwyr nos Sul wrth i'r fenyw gerdded heibio Teras Maes-y-cwrt yn Commercial Road.

Mae'r heddlu'n credu bod yr ymosodiad rwng hanner nos a 12:25am fore Llun.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Kavanagh: "Mae hwn yn ddigwyddiad anarferol iawn am fod dioddefwraig wedi cael anafiadau i'w phen a'i hwyneb ...

"Rydym yn apelio i unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad neu a welodd rywun yn ymddwyn yn amheus yn ardal Taibach nos Sul neu'n gynnar fore Llun i gysylltu gyda ni."

Roedd hi'n cerdded o dafarn yr Old Surgery i gyfeiriad canol y dref ac yn gwisgo blows wen a jîns du.

Gall unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.