Dwyn watshis gwerth mwy na £10,000 yn Nghaerdydd

Dwyn watshis
Image caption Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth

Cafodd dwy watsh sy'n werth mwy na £10,000 eu dwyn yng Nghaerdydd.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi'r lladrad ym Mhen-y-lan, Caerdydd, tra roedd y perchnogion ar eu gwyliau.

Roedd rhai wedi torri i mewn i dŷ ar Hampton Court Road ddydd Sul, Rhagfyr 29.

Mae'r eitemau'n cynnwys Rolex Datejust gyda rhifau Rhufeinig yn werth £7,000 ac Omega aur sy'n werth £3,500.

Hefyd cafodd gliniadur du Dell, Apple iPod Nano gwyn, oriawr Longines ac un Dolce and Gabbana gyda strap brown ac wyneb arian.

'Blaenoriaeth'

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Richie Fenton: "Mae trosedd fel hon yn brofiad ysgytwol ac mae lleihau a datrys y math yma o dorcyfraith yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru.

"Rydym yn gwneud nifer o ymholiadau i geisio adnabod y troseddwyr ac yn apelio i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â ni.

"Mae'r watshis yn hynod a dylai unrhywun sy'n cael cynnig prynu un neu sy'n derbyn un fel anrheg gysylltu gyda ni."

Dylai unrhywun â gwybodaeth am y digwyddiad ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111, gan ddyfynnu'r rhif *406976.