Tair damwain ar yr A55 ar Ynys Môn oherwydd cenllysg

Damwain
Image caption Damweiniau ar yr A55 ar Ynys Môn oherwydd cenllysg

Mae tair damwain wedi digwydd ar yr A55 ar Ynys Môn o fewn llai na chwarter awr oherwydd storm o genllysg.

Galwyd yr heddlu i'r ddamwain gyntaf am 3:54pm wedi i gar Peugeot droi drosodd wrth yrru i'r gorllewin yn agos i Langefni. Roedd yr heddlu yn dweud nad oedd neb wedi brifo yn y ddamwain yma.

Am 4:06pm aeth yr heddlu i fyny'r ffordd i Gerrigceinwen lle'r oedd car BMW wedi troi drosodd - eto nid oedd yna anafiadau yn y digwyddiad yma.

Digwyddodd yr olaf o'r tair damwain am 4:07pm wrth i Ford Fiesta daro'r bariau diogelwch ger cilfan rhwng Llangefni a Gaerwen. Roedd y car yn teithio tua'r dwyrain.

Cafodd y gyrrwr ei gludo i'r ysbyty fel mesur rhagofal.

Meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd amodau gyrru yn dwyllodrus ar y pryd oherwydd cawod drom o genllysg."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.