Abertawe 2 - 3 Man City

Yaya
Image caption Colli fu hanes Abertawe mewn gêm gyffrous yn y Liberty

Mae'r Elyrch wedi colli gem gyntaf y flwyddyn yn Uwch Gynghrair Lloegr yn erbyn Manchester City.

Y tîm o Gymru wnaeth chwarae orau'n ystod yr hanner cyntaf gyda City yn cael ei gwneud i edrych yn weddol gyffredin.

Er hynny City aeth ar y blaen wrth i Fernandinho ddarganfod cefn y rhwyd o ymyl y blwch cosbi yn dilyn cic gornel.

Wedi hynny Abertawe wnaeth bwyso fwyaf a heblaw i Shelvey a De Guzman fod yn wastraffus fe fyddan nhw wedi dod a'r gêm yn gyfartal yn llawer cynt.

Fe ddaeth gôl yr Elyrch yn ystod amser ychwanegol yr hanner cyntaf, Wilfried Bony yn penio'n gelfydd i gornel y rhwyd wedi croesiad gan Rangel.

Wrth edrych ar y digwyddiad eto roedd hi'n edrych fel bod y gŵr o Côte d'Ivoire yn camsefyll, ond doedd dim ots gan y cefnogwyr oedd yn teimlo eu bod yn haeddu ychydig o lwc.

Dechreuodd yr ail hanner gyda'r un maint o gyffro a'r hanner cyntaf wrth i'r ddau dîm brofi amddiffyn ei gilydd.

Yaya Toure oedd y nesaf i sgorio yn dilyn camgymeriad gan José Cañas ar ochr y blwch cost.

Roedd Yaya hefyd yn lwcus i weld y bel yn taro Ashley Williams ar ei ffordd i'r rhwyd gan i hynny dwyllo'r gôl-geidwad Gerhard Tremmel.

Wedi i Kolarov sgorio'r drydydd iddyn nhw roedd hi'n edrych fel bod y gêm ar ben i Abertawe.

Daeth diweddglo cyffrous i'r gêm wedi i Bony sgorio ei ail gydag ergyd bwerus o bellter sylweddol - dylai Joe Hart fod wedi gwneud yn well efallai ond roedd hi'n gôl o safon.

Er i'r dorf weiddi'n groch wrth geisio annog eu tîm ymlaen, doedd dim mwy o goliau i fod ac mae Abertawe'n aros yn yr 11eg safle.