Arsenal 2 - 0 Caerdydd

Theo Walcott
Image caption Asgellwr Lloegr Theo Walcott wnaeth sgorio ail gôl Arsenal

Mae Caerdydd wedi colli yn erbyn Arsenal yn Stadiwm yr Emirates.

Roedd Ole Gunnar Solskjær yn y dorf yn gwylio'r gêm gyda Vincent Tan ac mae disgwyl iddo gael ei benodi fel y rheolwr newydd yn y man.

Bydd perfformiad Caerdydd yn rhoi lawer o waith meddwl iddo gan eu bod ar un llaw yn amlwg yn llawer gwannach tîm nac Arsenal ond ar y llaw arall wedi dangos llawer o gymeriad wrth ddod mor agos i gipio pwynt.

Nid oedd yr hanner cyntaf yn wledd o bêl-droed er mai Arsenal oedd yn edrych fwyaf bygythiol.

Ond roedd y tîm cartref yn feistrolgar drwy gydol yr ail hanner ond roedd dycnwch amddiffyn Caerdydd yn hafal i'w chwarae dawnus drwy gydol y gêm - bron iawn.

Bendtner oedd yr arwr i Arsenal gyda thri munud yn unig ar ôl ar y cloc. Fe beniodd Sagna yn syth at y gôl-geidwad o groesiad difyr gan Monreal ond roedd Bendtner yno i'w tharo i gefn y rhwyd.

Fe wnaeth yr ymosodwr lliwgar anafu ei hun wrth wneud, fydd yn achosi poen meddwl i Arsene Wenger sydd eisoes heb Ramsey, Gibbs, Giroud ac Özil.

Yn fuan wedyn mi lwyddodd Theo Walcott i adio ail i Arsenal - halen yn y briw i Gaerdydd.

Dylai Caerdydd fod wedi sgorio'n yr eiliadau olaf ond doedd Stephen Caulkner ddim ddigon effro i gymryd mantais o flerwch Arsenal.

Mae gêm nesaf yr Adar Gleision ddydd Sul yn erbyn Newcastle pan fydd Solskjær wrth y llyw yn ôl pob tebyg.