Llifogydd yn achosi dinistr

Achub oddi ar fferm Image copyright RNLI
Image caption Fe wnaeth yr RNLI achub pedwar o bobl o dŷ fferm yn Llanbedr, Gwynedd
Tywyn Image copyright LOVE TYWYN
Image caption Roedd y tonnau yma'n hyrddio dros Ffordd y Pier yn Nhywyn
Saundersfoot, Pembrokeshire Image copyright Athena Pictures
Image caption Cafodd y llun yma ei dynnu yn Saundersfoot
Cabanau
Image caption Roedd y cabanau yma mewn parc gwyliau ger Cydweli dan ddŵr ar ôl y llanw uchel
Aberystwyth seafront Image copyright Athena Pictures
Image caption Mae'r difrod i bromenâd Aberystwyth yn ddifrifol
Amroth, Pembrokeshire Image copyright Athena Pictures
Image caption Cafodd y ffordd yma yn Amroth ei difrodi'n ddifrifol gan y tonnau

Mae'r tywydd garw wedi achosi difrod mewn sawl ardal yng Nghymru wrth i gyfuniad o wynt cryf a glaw achosi llifogydd a dinistr.

Yr ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio waethaf yw'r de orllewin - yn arbennig Sir Gâr, a Cheredigion - ac ardaloedd o Wynedd.

Cafodd pobl rybudd i adael eu cartrefi cyn i lanw uchel daro Aberystwyth a'r Borth am 9.20pm.

Roedd y gwynt yn hyrddio ar 75 m.y.a. yng Nghapel Curig yn Eryri am 6am, 60 m.y.a. yn Aberporth yng Ngheredigion a 63 m.y.a. ar benrhyn y Mwmbwls ger Abertawe.

Mae'r manylion diweddaraf am rybuddion ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Joanne Sherwood o Cyfoeth Naturiol Cymru wrth BBC Cymru: "Rhain yw rhai o'r llanwau uchaf ers 1997 ac ar ben hynny mae'n wyntog iawn ac mae hynny'n achosi ymchwydd o fetr ychwanegol ar ben y llanw.

"Rydym yn credu bod hyn yn ddifrifol ac mae'n timau ni allan yn gwirio'r amddiffynfeydd er mwyn sicrhau fod popeth yn gweithio'n iawn."

Mae pobl sy'n gorfod gadael eu cartrefi i aros gyda pherthnasau yn cael eu hannog i roi gwybod i'r heddlu ar 101.

Effaith y llifogydd

De Orllewin

Deliodd y gwasanaethau brys gyda llifogydd mewn tua 30 o gartrefi yng nghanol Aberteifi ac achubwyd un fenyw feichiog o'i chartref yn Stryd y Santes Fair yng nghanol y dref.

Dywedodd y Cynghorydd John Adams Lewis ar Taro'r Post: "Dwi wedi byw yn Aberteifi ers 46 o flynyddoedd a dwi ddim wedi ei gweld hi fel hyn erioed. O'dd y dŵr lan rhyw lathen o uchder yn rhyw 30 o'r tai...

"Mae'r dŵr wedi mynd lawr nawr, ond mae'r difrod wedi ei wneud yn dyw e."

Mae oddeutu 70 o garafanau wedi cael eu difrodi mewn parc gwyliau ger Cydweli.

Gan fod y parc wedi cau rhwng mis Ionawr a Mawrth nid oedd y cabanau'n cael eu defnyddio ar y pryd.

Ym Mhentywyn mae adroddiadau fod y llanw uchel wedi chwalu drwy fyrddau llifogydd oedd wedi cael eu gosod er mwyn cryfhau'r wal fôr ac mae'r Beach Hotel wedi ei ddifrodi gan ddŵr.

Gogledd Orllewin

Image copyright Love Tywyn
Image caption Nid yw'n edrych yn debygol y bydd trenau'n gallu teithio drwy Dywyn

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae tua 60 o bobl eisoes yn defnyddio'r lloches yn Bermo, rhai ohonyn nhw'n dod a'i hanifeiliaid anwes hefo nhw, ac mae gweithwyr o'r Groes Goch a'r cyngor yno i'w cynorthwyo.

Bu'n rhaid i griwiau'r bad achub symud pedwar o bobl o fferm yn Llanbedr ac achub pump o bobl oedd yn sownd yn eu carafanau ym Mhwllheli.

Canolbarth

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Canolbarth Cymru wedi gorfod delio â digwyddiadau yn Aberaeron.

Yn Nhywyn mae adroddiadau bod rhannau o'r cledrau wedi cael eu golchi i ffwrdd gan y tonnau.

Gogledd Ddwyrain

Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd wedi sefydlu canolfannau i'w defnyddio fel lloches yn Nhreffynnon a Glannau Dyfrdwy er mwyn delio efo effeithiau'r llanw uchel wnaeth daro am hanner dydd yn yr ardaloedd hynny.

De Ddwyrain

Image caption Cafodd y tŷ hwn ei daro gan fellten yng Nghaerffili

Yng Nghaerffili fe gafodd tŷ ei roi ar dân wedi iddo gael ei daro gan fellten.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn Ffordd Pengam ym Mhenpedairheol yn doc wedi 4pm, er nad oedd bywydau yn y fantol.

Aeth diffoddwyr tân i Lanilltud Fawr i gynorthwyo menyw oedd yn sownd mewn carafan ger y traeth.

Mae'r A466 yn Nhyndyrn wedi cael ei chau oherwydd bod dŵr ar y ffordd. Bydd ar gau am 20 munud cyn ag ar ôl llanw uchel ddydd Sadwrn hefyd, fydd yn digwydd am 9:47 yn y bore a 10:12 yn ystod y nos.

Dywedodd Roger Hoggins, pennaeth gweithredu Cyngor Sir Fynwy: "Mae'r llanw a ragwelir yn uchel ond yn is na hyn a fyddai fel arfer yn arwain at lifogydd eiddo. Fodd bynnag, mae'r cyfuniad o lanw uchel, dŵr llifogydd, gwyntoedd uchel ac ymchwydd llanw a ragwelir yn yr Hafren, ynghyd â phwysau isel, yn golygu y gall eiddo fod mewn perygl o lifogydd .

"Felly, byddwn yn defnyddio bagiau tywod er mwyn amddiffyn eiddo allai fod mewn perygl cyn cau'r ffordd. "

Image copyright Cyngor Sir Fynwy
Image caption Roedd rhaid cau'r A466 yn Nhyndyrn

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio cerddwyr a beicwyr i fod yn ofalus wrth groesi'r morglawdd yn y bae.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan bod llanw uchel o 7.69m wedi cael ei gofnodi - yr uchaf ers i'r morglawdd gaen ei adeiladu nôl yn 2006.

Ychwanegodd: "Mae'r llanw a'r gwynt wedi gadael gweddillion ar ffordd y Morglawdd a all fod yn beryglus. Gan hynny mae'n bosibl y caiff beicwyr a cherddwyr eu hatal rhag defnyddio'r ffordd os bydd rhaid, felly cysylltwch â swyddfa reoli'r morglawdd os oes unrhyw bryderon gennych drwy ffonio 02920 700234."

Cafodd pobl eu symud o'u cartrefi yng Nghasnewydd dros nos oherwydd y risg o lifogydd wrth i CNC rybuddio am lanw uchel iawn yno, ond ni chafodd yr ardal ei heffeithio mor ddrwg â roedd rhai wedi ei ofni.

Trafferthion ar y ffyrdd

Image caption Roedd lefel y môr yn uchel yn gynnar yn Aberaeron

Mae'r tywydd wedi achosi trafferthion ar y ffyrdd :-

  • Roedd yr A496 ar gau rhwng y Bermo a'r A470 yn Nolgellau;
  • Gofynnodd Heddlu Dyfed-Powys i bobl osgoi San Clêr gan fod Ffordd Isaf San Clêr wedi cau;
  • Roedd yr A4042 ar gau i'r ddau gyfeiriad yn Llanelen ger Y Fenni yn Sir Fynwy wedi i afon Wysg orlifo;
  • Roedd yr A487 ar gau rhwng Niwgwl a Solfach yn Sir Benfro wedi i'r amddiffynfa gael ei chwalu ger y lan;
  • Wedi i afon Ceiriw orlifo yn Sir Benfro roedd llifogydd ar yr A4075 ond bod angen i yrwyr fod yn ofalus;
  • Roedd Pont Cleddau yn Sir Benfro wedi cau ar gyfer pob cerbyd;
  • Roedd yr A4066 ar gau yn Nhalacharn yn Sir Gaerfyrddin oherwydd llifogydd rhwng Stryd Fictoria a Stryd Frogmore wedi i Afon Taf orlifo yno;
  • Roedd y brif ffordd drwy ganol pentref Pentywyn ar gau oherwydd llifogydd;
  • Roedd y prom yn Aberystwyth ynghau a Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio pobl i osgoi mynd yno;
  • Yn ôl Trenau Arriva Cymru, roedd gwasanaeth bysiau rhwng Amwythig ac Aberystwyth rhwng 9am a 5pm a'r un peth yn wir am y lein rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog rhwng 10am a 4pm;
  • Roedd y gwasanaethau trên rhwng Abertawe a Chaerfyrddin a rhwng Abertawe a Phantyffynnon i gyd wedi'u gohirio am y tro gyda bysiau'n cludo teithwyr. Roedd oedi ar y gwasanaeth rhwng Caerdydd a Chasnewydd;
  • Roedd y lein hefyd ar gau rhwng Penbre a Phorth Tywyn rhwng Llanelli a Chaerfyrddin a gwasanaeth bysiau ar gael;
  • Dywedodd Trenau Arriva Cymru fod yr holl wasanaethau rhwng Llandudno a Chaer wedi'u canslo oherwydd llifogydd;
  • Hefyd roedd holl wasanaethau fferi cwmni Stena rhwng Abergwaun a Rosslare wedi eu canslo.
Image copyright UGC Steven Griffiths
Image caption Anfonwyd y llun yma o Langennech ger Llanelli gan Steven Griffiths

Dywedodd Owain Wyn Evans o wasanaeth tywydd BBC Cymru fore Gwener: "Mae gwyntoedd cryfion a'r llanw uchel yn debygol o barhau i greu tonnau uchel iawn sy'n gwneud y sefyllfa'n beryglus iawn yn enwedig ger y glannau.

"Mae gan y Swyddfa Dywydd rybudd melyn am wyntoedd cryfion, a bydd llanw uchel unwaith eto heno 'ma, felly mae rhagor o lifogydd yn bosib bryd hynny.

"Wrth i system o bwysedd isel symud tuag at Gymru o'r gorllewin, mae disgwyl rhagor o law trwm iawn ddydd Sul - ac mae hynny'n debygol o achosi rhagor o lifogydd ac amodau ansefydlog iawn."

Gall aelodau o'r cyhoedd ffonio'r llinell llifogydd ar 0845 988 1188 am fwy o wybodaeth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.