Heddlu'n ymchwilio wedi ymosdiad ym Mhort Talbot

Heddlu
Image caption Ymosodiad ar ddynes yn Port Talbot, Heddlu angen gwybodaeth

Mae Heddlu ym Mhort Talbot yn chwilio am dystion wedi ymosodiad ar ddynes 26 oed yn oriau man dydd Llun, Rhagfyr 30ain.

Digwyddodd yr ymosodiad tua 12.25yb tra roedd y ddynes yn cerdded adref ar ôl noson allan.

Cafwyd hyd iddi yn agos i fynediad Parc Coffa Taibach.

Roedd aelod o'r cyhoedd wedi ei darganfod gydag anafiadau i'w phen ar ddiwedd Teras Maes y Cwrt ar Commerical Road.

Meddai Ditectif Arolygydd Mark Kavanagh o Heddlu De Cymru: "Ma' hwn yn ddigwyddiad anghyffredin.

"Rydym yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad neu sydd wedi gweld rhywun yn ymddwyn mewn ffordd amheus yn ardal Taibach ar nos Sul neu yn oriau man dydd Llun i gysylltu gyda ni."

Roedd y ddynes wedi cerdded o dafarn yr Old Surgery yn Taibach i gyfeiriad canol dref Port Talbot yn gwisgo blows gwyn a jeans du.

Os oes ganddo'ch unrhyw wybodaeth cysylltwch gyda'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacla yn anhysbys ar 0800 555111 gan nodi'r cyfeirnod 62130407457.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.