Andries Pretorius yn ymuno gyda'r Worcester Warriors

Andries Pretorius Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Andries Pretorius gadael Y Gleision ar diwedd y tymor

Mae un arall o sêr rygbi rhanbarthau Cymru yn gadael i ymuno â chlwb dros Clawdd Offa.

Cyhoeddodd Worcester Warriors eu bod wedi arwyddo cyn-gapten Gleision Caerdydd, Andries Pretorius.

Mi fydd y chwaraewr rhyngwladol yn symud i chwarae yn Lloegr ar ddiwedd y tymor.

Er i'r chwaraewr rheng ôl gael ei eni yn Ne Affrica, chwaraeodd Pretorius ddwywaith i Gymru ar eu taith i Japan wedi iddo ddod yn gymwys i chwarae dros ei wlad fabwysiedig.

Ar hyn o bryd mae'r Warriors mewn trafferthion ar waelod Uwchgynghrair Aviva ddeg pwynt tu ôl y tîm nesaf atynt, London Irish, a heb ennill gêm eto'r tymor yma.

Parhau i roi 100%

Dywedodd Andries Pretorius "Dwi wedi caru fy amser gyda'r Gleision ac mi fyddaf yn parhau i roi 100% tan ddiwedd y tymor, ac yna mi fyddaf yn dechrau canolbwyntio ar Worcester Warriors."

Roedd cyfarwyddwr rygbi Worcester Warriors, Dean Ryan, wrth ei fodd:

"Dwi'n hapus dros ben fod Andries wedi penderfynu ymuno gyda ni wrth i ni edrych i'r dyfodol a dod yn dîm mwy cystadleuol yn yr Uwchgynghrair.

"Rydym wedi gweld dau o'n prif chwaraewyr yn arwyddo estyniad i'w cytundebau sy'n dangos eu bod nhw, a'r rhai rydym yn ceisio eu denu i'r clwb, yn credu yn ein gweledigaeth o adeiladu ar gyfer yr hir dymor.

"Mae Andries wedi profi ei hun ac rydw i yn edrych ymlaen at ei groesawu yma yn yr haf."

Trist

Meddai Cyfarwyddwr rygbi'r Gleision, Phil Davies: "Mae Andries wedi bod yn chwaraewr poblogaidd yma ac wedi rhoi gwasanaeth aruthrol i'r rhanbarth.

"Yn naturiol rydym yn drist iawn yn ei weld yn gadael ar ddiwedd y tymor ond mi fydd yn mynd gydag ewyllys da'r clwb.

"Mae ganddon ni nifer o chwaraewyr ifanc yn y rheng ôl sydd yn eiddgar i lenwi'r bwlch."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.