Corff dan bont: Agor cwest

A483
Image caption Cafodd y ffordd ei chau am oriau ddydd Llun wrth i'r heddlu wneud ymchwiliadau

Mae cwest i farwolaeth dynes gafodd ei darganfod yn farw o dan bont ger yr A483 yn ardal Y Waun ddydd Llun wedi cael ei agor a'i ohirio.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Sarah Maria Jones, 48 o Groesoswallt, wedi iddyn nhw gael eu galw i'r lleoliad am 1:30pm brynhawn Llun.

Fe wnaeth crwner y gogledd-ddwyrain John Gittins ohirio'r cwest tan ddyddiad fydd yn cael ei benderfynu'n hwyrach.

Yn y cyfamser mae achos y farwolaeth wedi cael ei gofnodi fel "anafiadau niferus a difrifol".

Mae'r heddlu eisoes wedi dweud nad ydyn nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.

Straeon perthnasol