Newcastle 1 - 2 Caerdydd

Solskjær a Pardew
Image caption Solskjær (dde) yn ysgwyd llaw gyda rheolwr Newcastle Alan Pardew cyn y gêm

Mae Ole Gunnar Solskjær wedi curo ei gêm gyntaf fel rheolwr Caerdydd wrth i'r Adar Gleision drechu Newcastle yn rownd gyntaf Cwpan yr FA yn St James' Park.

Roedden nhw ar ei hôl hi tan rhyw chwarter awr o'r diwedd yn dilyn gôl dda gan Papiss Cisse yn yr hanner cyntaf.

Yn ystod ei yrfa roedd Solskjær yn enwog am ddod oddi ar y fainc a newid gemau - a dyna'n union ddigwyddodd yma wrth i'r gŵr o Norwy yrru Craig Noone ar y cae.

Llwyddodd Noone, sy'n cael tymor da hyd yn hyn, i ddarganfod cefn y rhwyd gydag ergyd bwerus o bellter.

Daeth awgrym arall bod Solskjær am barhau i fod yn ddewin eilyddio, wrth i ddyn arall sgorio wedi dod oddi ar y fainc.

Frazier Campbell oedd yr arwr y tro hwn, yn penio'r bêl i fewn i'r gôl er mawr hapusrwydd i'r cefnogwyr Caerdydd oedd wedi teithio i ogledd Lloegr.

Bydd enw Caerdydd nawr yn mynd mewn i'r het ar gyfer y bedwaredd rownd ac fe fyddan nhw'n darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr nesaf ddydd Sul.

Mae Caerdydd wedi ennill y gwpan unwaith o'r blaen - yn 1927 - ac fe lwyddon nhw i gyrraedd y rownd derfynol yn 2008.

Straeon perthnasol