Casnewydd 1 - 2 Northampton

Image caption Mae Northampton yn parhau i fod ar droed y tabl er gwaetha'r canlyniad

Mae Casnewydd wedi colli'r erbyn y tim sydd ar waelod Adran Dau yn Rodney Parade.

Doedd y ffaith bod gôl-geidwad y tim cartref Lenny Pidgeley yn chwarae gyda bawd wedi torri ddim yn help.

Fe wnaeth yn dda i atal ergyd wreiddiol Hallam Hope - sydd ar fenthyg o Everton - ond llwyddodd yr ymosodwr ifanc gyda'i ail ymdrech.

Llwyddodd Casnewydd i'w gwneud hi'n gyfartal cyn yr egwyl diolch i beniad Harry Worley, ond funudau fewn i'r ail hanner daeth yr ergyd farwol.

Darren Carter sgoriodd y gôl fuddugol gydag ergyd wych ar ei droed chwaith i waelod cornel rhwyd Pidgeley.

Mae Casnewydd bellach yn wythfed, dim ond un safle o dan y gemau ail gyfle.