Lido Afan 2 - 2 Y Drenewydd

Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports Image copyright FAW

Mae'r Drenewydd wedi sicrhau eu lle yn y chwech uchaf gyda gêm gyfartal yn erbyn Lido Afan.

Y tîm cartref aeth ar y blaen gyda chic rydd gan Chris Hartland, yn erbyn patrwm y chwarae.

Fe wnaeth gôl-geidwad y Drenewydd lanast o geisio delio gyda'r bêl ac fe orffennodd hi yn y rhwyd, er mawr rhwystredigaeth i'w gyd-chwaraewyr.

Cafodd yr ymwelwyr gyfres o gyfleoedd i'w gwneud hi'n gyfartal yn ystod gweddill yr hanner cyntaf ond roeddwn nhw'n wastraffus o flaen y gôl.

Ond wnaeth hynny ddim para, a chwarter awr ar ôl yr egwyl daeth gôl i'r Drenewydd.

Boundford wnaeth sgorio, ac yn fuan wedi ei groesiad o wnaeth ddarganfod pen Hearsey yn y blwch cosbi i'w gwneud hi'n 2-1 i'r ymwelwyr.

Doedd Afan Lido ddim yn fodlon ac fe wnaethon nhw'n dda i ddod yn ôl.

Cic rydd arall gan Hartland wnaeth ei gwneud hi'n 2-2.

Mae'r canlyniad yn mynd a'r Drenewydd i'r drydedd safle - tipyn o gamp i dîm roedd llawer yn disgwyl eu gweld yn brwydro i aros yn yr adran.

Straeon perthnasol