Apelio am dystion wedi gwrthdrawiad yn Abertawe

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad difrifol yn Abertawe.

Cafodd dyn 70 mlwydd oed ei gludo i Ysbyty Treforys nos Sadwrn, Ionawr 4, ar ôl gwrthdrawiad gyda char ar Princess Way, ychydig cyn 7.00yh.

Dywedodd yr heddlu bod car Mercedes gyda chefn uchel (estate) wedi bod yn rhan o'r digwyddiad.

Cafodd y dyn anafiadau i'w goes a'i ben yn y gwrthdrawiad, ac mae'n parhau i fod yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un welodd y digwyddiad neu'r car, i gysylltu gyda nhw ar 101 gan ddyfynnu'r rhif 62140003992.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.