Air Malta yn cyhoeddi mwy o hediadau o Gaerdydd

Maes Awyr Caerdydd

Mae Air Malta wedi cyhoeddi eu bod am gynnal mwy o hediadau o faes awyr Caerdydd, oherwydd cynnydd yn y galw.

Mae'r cwmni yn disgwyl gweld mwy o alw am wyliau yn ystod y gwanwyn, felly bydd teithiau ychwanegol rhwng y brifddinas ac ynys Malta yn dechrau ar Ebrill 8.

Yn ôl Air Malta, mae'n leoliad poblogaidd am wyliau o gwmpas adeg y Pasg oherwydd hinsawdd mwyn yr ynys, sydd yn boeth iawn yn yr haf.

Dywedodd Jon Horne, prif weithredwr Maes Awyr Caerdydd: "Mae'n wych bod Air Malta yn ymestyn eu gweithrediad yma yng Nghaerdydd sy'n helpu i barhau'r cysylltiad cryf rhwng yr ynys a Chymru.

"Mae Air Malta yn un o chwe cwmni hedfan sydd â phresenoldeb yma, a gyda rhifau teithwyr yn cynyddu 17% o flwyddyn i flwyddyn, mae'n ychwanegu at dyfiant y Maes Awyr."

Bydd Air Malta yn parhau gyda'r gwasanaeth tymhorol tan fis Hydref.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.