Dirwy o £25,000 i gwmni dur

Trostre
Image caption Roedd y ddamwain yng ngwaith Trostre, Llanelli

Mae cwmni Tata wedi cael £25,000 o ddirwy a'i orchymyn i dalu £8,320 o gostau wedi i weithiwr gael ei anafu'n ddifrifol.

Clywodd Llys Ynadon Llanelli fod y dyn yn gweithio ar lein gynhyrchu yn Nhrostre yn y dre' a bod y ddamwain ar Ragfyr 6, 2012.

Cafodd ei llaw chwith ei dal mewn cyfarpar a chollodd rannau dau fys.

Roedd wedi bod yn gweithio yno ers 34 o flynyddoedd.

Plediodd y cwmni'n euog i dri chyhuddiad o dorri deddfwriaeth iechyd a diogelwch.

Straeon perthnasol