Dyddiad cais hawl i apelio llofrudd April Jones, Mark Bridger

Mark Bridger tu allan y llys
Image caption Roedd y barnwr wedi dweud bod Bridger yn gelwyddgi ac yn bidoffeil.

Mae llofrudd April Jones, Mark Bridger, wedi cael dyddiad ar gyfer cais i gael hawl i apelio yn erbyn ei ddedfryd.

Dywedodd y Llys Apêl y byddai'r gwrandawiad ar Ionawr 24.

Fe gafwyd Bridger, 47 oed, yn euog o lofruddio'r ferch bump oed, April Jones, fis Mai diwethaf a'i ddedfrydu i garchar am oes.

Roedd y ferch ysgol wedi mynd ar goll y tu allan i'w chartref ym Machynlleth ar Hydref 1, 2012.

Roedd Bridger wedi honni iddo daro yn erbyn April yn ddamweiniol gyda'i gar ac nad oedd yn cofio beth a wnaeth gyda'i chorff.

Fe gafwyd hyd i waed April yng nghartref Bridger ger Machynlleth ynghyd â nifer o gyllyll a darnau o esgyrn.

Roedd y barnwr wedi dweud bod Bridger yn gelwyddgi ac yn bidoffeil.

Er gwaethaf yr ymgyrch chwilio fwyaf yn hanes heddluoedd Prydain, nid yw corff April wedi cael ei ddarganfod.

Straeon perthnasol