Cyhoeddi enw cyn-athro 64 oed o Brestatyn

Garry Daltry Image copyright Jeff Pitt
Image caption Fe dynnwyd llun o Garry Daltry mewn gwesty lleol oriau'n unig cyn i'w gorff gael ei ddarganfod.

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn yr oedd ei gorff ar draeth yn Sir Ddinbych.

Fe gafwyd hyd i Garry Arthur Daltry, cyn-athro 64 oed o Brestatyn, yn oriau mân diwrnod cynta'r flwyddyn.

Mae achos ei farwolaeth yn cael ei drin fel un anesboniadwy.

Mae crwner y Gogledd, John Gittins, wedi agor a gohirio cwest ddydd Llun.