Y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cyhoeddi safonau iaith

Meri Huws
Image caption Cafodd y safonau cyntaf ei llunio gan y Comisiynydd ond fe gawson nhw eu gwrthod

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi safonau iaith y mae disgwyl i rhai cyrff cyhoeddus lynu atyn nhw, gan gynnwys cynghorau, parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod yna beryg y bydd y safonau yn cynnig gwasanaeth gwaeth i'r cyhoedd na'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.

Bydd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn asesu sut y dylai'r safonau gael eu mabwysiadau gan y cyrff dan sylw.

Cafodd y safonau a gynigiwyd yn wreiddiol gan y Comisiynydd eu gwrthod gan y Gweinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg ar y pryd, Leighton Andrews.

Mae'r safonau newydd yn nodi y dylai cyrff ddangos yn glir eu bod yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg ac y dylai'r iaith gael blaenoriaeth ar arwyddion dwyieithog.

Dylai staff prif switsfwrdd y cyrff fod yn medru siarad yr iaith ac mi fydd rhaid iddyn nhw gyhoeddi eu holl ddatganiadau newyddion yn Gymraeg hefyd.

'Hawliau newydd'

Dywedodd y mudiad iaith: "Dylai'r safonau iaith sefydlu hawliau newydd a chlir i bobl fedru defnyddio'r Gymraeg bob dydd heb rwystr na thrafferth.

"Ond nid yw cyhoeddiad heddiw yn cynnwys hawliau o'r fath, er gwaethaf cefnogaeth drawsbleidiol i'n galwadau.

"Yn wir, mewn nifer o feysydd megis gwasanaethau ffôn a gwefannau, mae peryg y gallai'r safonau gynnig llai na chynlluniau iaith," meddai cadeirydd y mudiad, Robin Farrar.

Mae'n galw ar Aelodau Cynulliad i wella'r safonau cyn iddyn nhw ddod i rym ym mis Tachwedd.

"Yn nwylo Aelodau Cynulliad y bydd un o'r penderfyniadau pwysicaf - penderfyniad a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y 15 mlynedd nesaf a mwy.

Mae ganddyn nhw'r cyfle i sicrhau bod rhagor o bobl, yn enwedig y genhedlaeth nesaf, yn cael byw yn Gymraeg."

Bydd safonau ar gyfer gwasanaethau eraill yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach.

Straeon perthnasol