Arestio bachgen 16 oed tu allan i ysgol

Heddlu De Cymru
Image caption Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Ysgol Gyfun Aberpennar ganol bore Llun

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod bachgen 16 oed wedi cael ei arestio y tu allan i Ysgol Gyfun Aberpennar fore Llun.

Dywedodd yr Heddlu bod y bachgen wedi ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o achosi affräe.

Mae swyddogion yr heddlu sy'n ymchwilio i'r digwyddiad wedi darganfod cyllell yn yr ardal.

Y gred yw bod staff yr ysgol wedi gorfod taclo'r bachgen a'i symud i ffwrdd o'r adeilad, cyn ffonio'r heddlu.

Yn ôl yr Arolygydd lleol, Tony Carpenter: "Fe hoffwn sicrhau'r gymuned - yn arbennig rhieni'r plant yn yr ysgol - bod gennym ni rywun yn y ddalfa ac na chafodd neb ei anafu."

"Fe hoffem siarad gydag unrhywun nad ydym wedi siarad gydag eisoes, a welodd beth ddigwyddodd neu sydd ag unrhyw wybodaeth."

Mae unrhywun sydd â gwybodaeth yn gallu ffonio rhif 101 Heddlu De Cymru neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.