Apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad yn Llangefni

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad rhwng dyn a char yn Llangefni.

Roedd y gwrthdrawiad y tu allan i archfarchnad Lidl ar stad ddiwydiannol y dref am 3.45 brynhawn Iau, Ionawr 9.

Cafodd y dyn yn ei saithdegau ei hedfan i Ysbyty Glan Clwyd gydag anafiadau i'w ben.

Dywedodd yr heddlu bod ei anafiadau yn ddifrifol ond ddim yn peryglu ei fywyd.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad rhwng y Vauxhall Astra glas a'r dyn i gysylltu.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r Uned Heddlu Ffyrdd ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.