Moffett eisiau sedd ar fwrdd Undeb Rygbi Cymru

Former WRU chief David Moffett Image copyright Getty Images
Image caption Mae David Moffett yn dweud bod y ffrae rhwng yr undeb a'r rhanbarthau yn "gywilydd cenedlaethol"

Mae cyn arweinydd Undeb Rygbi Cymru, David Moffett yn bwriadu ceisio am sedd ar fwrdd y corff yn yr etholiad nesaf.

Parhau mae'r ffrae rhwng yr undeb a'r rhanbarthau ynglŷn â'r chwaraewyr sydd yn gadael Cymru, y ffordd mae'r rhanbarthau yn cael eu hariannu a'r gynghrair Eingl-Gymreig.

Mae Mr Moffett, sydd wedi bod yn brif weithredwr yr undeb a Rhanbarthau Rygbi Cymru yn y gorffennol yn dweud bod y ffrae yn "gywilydd cenedlaethol".

"Dw i wedi darllen mewn anghrediniaeth lwyr y saga ddiweddara' yn y byd rygbi," dywedodd wrth WalesOnline.

Gadawodd David Moffett Undeb Rygbi Cymru yn 2005. Roger Lewis wnaeth ei olynu.

Mae o wedi beirniadu'r ffordd y mae Roger Lewis wedi bod yn rheoli'r undeb ac yn 2008 mi ddychwelodd Moffett i Gymru.

Yn y flwyddyn honno roedd yna ffrae rhwng y rhanbarthau a'r undeb ynglŷn â chaniatáu i chwaraewyr oedd yn chwarae dros Gymru fynd i sesiynau hyfforddi'r tîm rhyngwladol.

Achos llys oedd y canlyniad, a'r undeb oedd yn fuddugol gan orfodi rhanbarthau i ryddhau chwaraewyr ar gyfer hyfforddi cyn prawf yr hydref yn Ne Affrica yn 2008.

Cefnogaeth y clybiau

Gadawodd Moffett Cymru eto yn 2009 ond mae nawr yn bwriadu dychwelyd ac yn gobeithio ennill sedd ar fwrdd yr undeb.

Mae etholiadau i gael rôl ar fwrdd yr undeb yn digwydd cyn y cyfarfod blynyddol. Ond dim ond mewn dwy ffordd y gall unigolyn sefyll yn yr etholiad.

Er mwyn dod yn gyfarwyddwr fydd yn cynrychioli un o'r rhanbarthau mi fyddai Moffett angen cefnogaeth dau o'r clybiau yn yr ardal leol ac wedyn ennill pleidleisiau o'i blaid yn yr etholiad.

I ddod yn un o'r cyfarwyddwr cenedlaethol ar gytundeb tair blynedd mi fyddai yn rhaid i ddau glwb ei ethol, ac yna byddai'n rhaid iddo fod yn llwyddiannus yn yr etholiad.

Straeon perthnasol