Warant am ddyn: heddlu yn chwilio amdano

Mae dwy warant wedi eu cyhoeddi ar gyfer dyn o ardal Grangetown yng Nghaerdydd.

Mi roedd Paul George Boyles, sydd yn 31 oed, i fod i ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ond wnaeth o ddim mynychu ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.

5 troedfedd 11 modfedd yw ei daldra ac mae ganddo wallt byr cyrliog, brown a llygaid glas.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555 111, neu gofynir i Paul Boyles fynd at yr orsaf heddlu agosaf.