Damwain gôl Caersws: Clwb yn pledio'n ddieuog

Casey Breese Image copyright Other
Image caption Roedd Casey Breese yn aelod o dîm pêl-droed dan-12 Caersws

Yn Llys y Goron Yr Wyddrug, mae cynrychiolwyr o Glwb Pêl-droed Caersws wedi pledio'n ddieuog i droseddau o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn dilyn marwolaeth bachgen bach.

Mae'r achos yn ymwneud â digwyddiad ym mis Awst 2011, pan fu farw Casey Breese, oedd yn 12 oed, wedi i ffrâm gôl oedd yn pwyso bron i 18 stôn ddisgyn ar ei ben.

Roedd Casey yn chwarae gyda ffrindiau ar y pryd.

Fe ymddangosodd 12 o aelodau'r pwyllgor yn y llys, a rhoddwyd y ple dieuog gan fargyfreithiwr y diffynyddion John Cooper.

Mae disgwyl i achos llys saith niwrnod o hyd ddechrau ar Orffennaf 22.

Straeon perthnasol