Gweinidog yn manylu ar adolygiad llifogydd

Prom Aberystwyth
Image caption Roedd difrod mawr ar hyd prom Aberystwyth

Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, wedi manylu ar yr adolygiad o lifogydd gafodd ei gyhoeddi'r wythnos diwethaf.

Dywedodd y byddai'r adolygiad yn cael ei rannu'n ddwy ran ac yn ymdrin â phob awdurdod arfordirol yng Nghymru.

Bydd y rhan gyntaf yn adolygiad "brys" o effeithiau'r llifogydd ym mis Rhagfyr a Ionawr a bydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Ionawr 2014.

Bydd yr ail ran yn adolygiad fwy eang, yn ystyried pa wersi sydd i'w dysgu am geisio rheoli llifogydd yn yr ardaloedd gafodd eu heffeithio. Y bwriad yw cwblhau'r rhan hon erbyn diwedd mis Ebrill 2014.

Camau nesaf

Er bod y gweinidog yn deall bod angen adolygiadau mor fuan â phosib, dywedodd y byddai awdurdodau lleol yn parhau i ganolbwyntio ar y gwaith clirio'n gyntaf.

Dywedodd: "Yr wythnos diwethaf gwelsom rai o'r amodau gwaethaf y mae Cymru wedi eu gweld ers 20 mlynedd ac rydw i'n cydymdeimlo'n fawr gyda'r rhai gafodd eu heffeithio.

"Mae'r stormydd wedi bod yn brawf i'n amddiffynfeydd morol ond mae hwn yn achos allai fod wedi bod yn llawer gwaeth.

"Rydym yn gwybod bod ein buddsoddiad mewn gwella amddiffynfeydd yn Nhrefdraeth, Borth, Aberaeron, Tywyn a Bae Colwyn wedi atal neu leihau llifogydd i dai a busnesau yno.

"Mae swyddogion yn parôhau i weithio'n agos iawn gyda'r awdurdodau a Cyfoeth Naturiol Cymru i weld sut y gallwn ni helpu ar ôl y llifogydd, ac rydw i'n annog awdurdodau lleol sydd wedi eu heffeithio i gysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â grantiau i dalu am waith adnewyddu i amddiffynfeydd."

Pwysleisiodd ei fod mewn cysylltiad gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â gwneud cais am arian Ewropeaidd i dalu am adnewyddu amddiffynfeydd.

Byddai'r pwyslais o hyn ymlaen, meddai, ar edrych at y dyfodol a sicrhau bod gwariant ar amddiffynfeydd yn flaenoriaeth.

Image caption Dywedodd perchnogion y Last Inn yn y Bermo bod 15 modfedd o ddŵr yn y dafarn

"Rydym yn gwybod bod ein hinsawdd yn newid ac na fydd tywydd eithafol fel hyn yn diflannu. Mae'n amhosib atal llifogydd ond rydym yn gweithio'n galed i amddiffyn ein harfordir yng Nghymru."

'Môr ar ei uchaf'

Yr amcangyfri yw bod llifogydd wedi effeithio ar 140 o dai ac 80 o garafanau, gyda nifer yn ardal Aberystwyth.

Roedd lefelau'r môr ar eu huchaf yn Nhrefdraeth, Aberdaugleddau a'r Bermo ers dechrau cofnodion manwl yn 1997.

Wedi cyhoeddiad y gweinidog mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud eu bod wedi cwblhau gwaith trwsio lle bo hynny'n bosib ond nad oedd y gwaith ar ben.

"Fel y mae'r gweinidog wedi gofyn, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i gasglu gwybodaeth yn sydyn am effaith y llifogydd fel y gall gwaith trwsio gael ei flaenoriaethu," meddai'r prif weithredwr, Emyr Roberts.

"Yna byddwn yn edrych i weld pa wersi sydd i'w dysgu o'r stormydd a beth y gallwn ni ei wneud i wella'r sefyllfa i bobl sy'n byw ac yn gweithio ar hyd yr arfordir."

Straeon perthnasol