Pleidlais yn disodli arweinydd Cyngor Powys

David Jones
Image caption Mae cyfnod Mr Jones fel arweinydd wedi dod i ben heddiw

Mae Cyngor Powys wedi pleidleisio o blaid cynnig o ddiffyg hyder yn y Cynghorydd David Jones.

Yr arweinydd newydd yw'r Cynghorydd Barry Thomas.

Fe wnaeth 40 o gynghorwyr bleidleisio o blaid y cynnig o ddiffyg hyder a 32 yn ei erbyn.

Y tri gyflwynodd eu henwau ar gyfer y swydd newydd oedd Myfanwy Alexander, Tony Thomas a Barry Thomas.

Newid cabinet

Y Cynghorydd Graham Brown gyflwynodd y cynnig o ddiffyg hyder wedi i Mr Jones roi'r sac i aelodau o'r cabinet, gan roi'r swyddi i aelodau grŵp gwahanol.

Roedd Mr Brown yn un o'r rheiny gollodd ei swydd ac mae'n dadlau fod Mr Jones wedi mynd "yn erbyn ewyllys y bobl" drwy benodi'r cabinet newydd.

Yn ogystal roedd Ms Alexander, un arall gafodd y sac, wedi codi pryderon ynglŷn â'r ffaith nad oedd neb ar y cabinet bellach yn gallu siarad Cymraeg.

Mae grwpiau annibynnol wedi bod yn rhan o draddodiad gwleidyddiaeth leol ym Mhowys lle mae ymgeiswyr yn sefyll fel aelodau unigol ac yna'n dod at ei gilydd wedi'r etholiad er mwyn creu gweinyddiaeth i reoli.

'Angen sefydlogrwydd'

Cyn y newidiadau roedd Mr Jones yn arwain Grŵp Annibynnol y Sir ac aelodau o'r grŵp hwnnw oedd deiliad swyddi'r cabinet.

Ym mis Tachwedd fe benderfynodd benodi cabinet newydd, gan ddadlau bod hynny'n angenrheidiol fel y gallai'r cyngor arbed arian.

Fe gafodd y cabinet newydd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr a dywedodd Mr Jones bryd hynny: "Mae Powys yn wynebu heriau ariannol heb eu hail gyda diffyg o ryw £40 miliwn dros y tair blynedd ariannol nesaf ac mae'r cyngor angen mwy o sefydlogrwydd nac erioed er mwyn gwneud y newidiadau sydd eu hangen.

"Ni chafodd fy mhenderfyniad i newid y cabinet ei wneud yn ysgafn. Mae'r cyngor yn gorff annibynnol ac mae'n addas bod y cabinet yn cael ei ffurfio o aelodau o'r grwpiau annibynnol mwyaf."

Wedyn fe wnaeth yr aelodau gafodd y sac - Mr Brown, Ms Alexander a Garry Banks - adael Grŵp Annibynnol y Sir a sefydlu grŵp newydd eu hunain, sef y Grŵp Annibynnol.

Pryder am yr iaith

Fe ymunodd Mr Jones â Chynghrair Annibynnol Powys (PIA) wrth iddo arwain gydag aelodau o'r grŵp hwnnw.

Dadl Mr Brown oedd nad oedd gan Mr Jones fandad i reoli oherwydd hynny.

"Fe wnaeth pobl bleidleisio o blaid arweinydd Grŵp Annibynnol y Sir oherwydd nad oedden nhw eisiau i'r PIA fod mewn pŵer," meddai.

"PIA sydd bellach yn llywodraethu oherwydd gweithredoedd yr arweinydd ac mae hyn yn mynd yn erbyn ewyllys y bobl."

Roedd Ms Alexander wedi codi pryderon am y ffaith nad oedd yna gynrychiolaeth i'r Gymraeg o fewn y cabinet.

Dywedodd: "Unwaith eto mae gennym ni gabinet ym Mhowys gyda dim siaradwyr Cymraeg arno.

"Pwy wnaiff godi cwestiynau am bolisïau all effeithio ar yr iaith Gymraeg?"

Toriadau

Mae'r cyngor yn gorfod torri £40 miliwn o'i chyllideb dros y tair blynedd nesaf.

Maen nhw wedi cyhoeddi cynllun er mwyn mynd i'r afael â diffyg o £20 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf allai arwain at ddiddymu hyd at 300 o swyddi.

Yn ogystal maen nhw'n ystyried torri gwasanaethau, codi treth cyngor a chynyddu'r tâl sy'n cael ei godi am wasanaethau.

Bydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.