Savage: 'mae amser Giggs ar ben'

Giggs a Savage Image copyright Getty Images
Image caption Mae Savage yn dweud bod amser Giggs yn yr uwch gynghrair ar ben

Mae cyn chwaraewr pêl-droed Cymru, Robbie Savage, yn dweud bod hi'n amser i Ryan Giggs ymddeol o'r gêm broffesiynol.

Yn ei golofn ar wefan chwaraeon y BBC, mae Savage yn dweud bod Giggs yn un o nifer o chwaraewyr ddylai adael Manchester United ar ddiwedd y tymor.

Mae'n credu bod dyfodol i Giggs mewn hyfforddiant yn Old Trafford, ond bod ei yrfa chwarae ar ben.

Mae Giggs, sy'n 40 oed, wedi chwarae dros 950 o gemau i Manchester United, ac mae wedi ennill 33 tlws, mwy nag unrhyw chwaraewr yn hanes y gêm yn Lloegr.

Giggs hefyd yw'r unig un i chwarae ym mhob pencampwriaeth yr Uwchgynghrair ers ei sefydlu, cyfanswm o 21 tymor.

Ond mae Savage, sydd wedi ymddeol ers 2011 a nawr yn gweithio fel sylwebydd, yn dweud bod yr amser wedi dod i Giggs ymddeol hefyd.

'Ailwampio'

Yn ei golofn, mae Savage yn dweud bod angen ailwampio carfan Manchester United yn llwyr, wedi i David Moyes ddod yn rheolwr ar ddechrau'r tymor.

Image caption Chwaraeodd Giggs a Savage gyda'i gilydd i Gymru

Mae'n cwestiynu yw nifer o chwaraewyr, yn cynnwys y Cymro, yn rhoi eu gorau i'r tîm ac yn gweithio ddigon caled ar y cae.

Dywed mai Giggs yw "chwaraewr gorau'r Uwch Gynghrair erioed" ond bod angen syniadau newydd yng nghanol y cae yn Old Trafford.

Er y feirniadaeth gan Savage, mae'n dweud bod dyfodol i Giggs ym Manceinion, os y byddai'n dymuno.

"Bydd yn aros ymlaen fel hyfforddwr ac efallai ef fydd y rheolwr nesaf, ond, o ran chwarae, dylai fynd," meddai Savage.

Mae Giggs wedi ennill yr Uwchgynghrair 13 o weithiau hefo Manchester United, a chwpan yr FA bedair gwaith.

Mae hefyd wedi bod yn rhan o ddau dîm oedd yn fuddugol ledled Ewrop, gan ennill Cynghrair y Pencampwyr yn 1999 a 2008.

Straeon perthnasol