Gwasanaethau Cymraeg: 'Safon isel'?

  • 11 Ionawr 2014
Protest Cymdeithas yr Iaith
Mae'r mudiad iaith yn dweud bod diffyg cyfleoedd hamdden trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pobl ifanc

Mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu nad oes gan bobl hyder yn safon gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.

Yn ôl Dyfodol Defnyddwyr, wnaeth holi nifer o bobl ynghylch y mater, mae disgwyliadau pobl o safon gwasanaethau Cymraeg yn isel.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod hyn yn profi bod angen i safonau iaith y llywodraeth fod yn rhai cryf, sy'n sefydlu hawliau "newydd a chlir" ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y safonau yn "gam pwysig yn y broses o wireddu ein gweledigaeth o wella gwasanaethau Cymraeg".

Fel rhan o'u hymchwil ynglŷn â'r math o wasanaethau Cymraeg mae pobl eisiau ei gael, fe wnaeth Dyfodol Defnyddwyr holi chwe grŵp ffocws mewn sawl ardal yng Nghymru.

Gwasanaeth gwaeth?

Er nad yw'n bosib dod i gasgliadau pendant ynglŷn â barn y cyhoedd oherwydd natur y data, mae'r ymchwil i'w weld yn awgrymu bod pobl yn credu bod gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg yn israddol na rhai Saesneg.

Dywedodd rhai gafodd eu holi eu bod nhw eisiau derbyn sicrwydd bod ansawdd gwasanaethau Cymraeg yn uchel.

Yn ôl Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, dyma'n union ddylai'r safonau iaith eu gwneud.

"Mae'r ymchwil yn cadarnhau safbwynt Cymdeithas yr Iaith - mae pobl eisiau byw yn Gymraeg," meddai Mr Farrar.

"Ond mae cwmnïau a sefydliadau mawr yn dal i'w rhwystro. Dyna pam ein bod yn ymgyrchu dros sefydlu hawliau newydd a chlir i bobl fedru defnyddio'r Gymraeg bob dydd heb rwystr na thrafferth.

"Yn anffodus, mae gan y safonau iaith a ddrafftiwyd gan Lywodraeth Cymru wythnos yma nifer o wendidau mawrion."

Dywedodd ei fod yn credu bod y safonau iaith fel maen nhw'n wanach na'r hyn sy'n orfodol o dan y ddeddf iaith bresennol.

"Yn wir, mewn nifer o feysydd megis gwasanaethau ffôn a gwefannau, mae peryg y gallai'r safonau gynnig llai na chynlluniau iaith," meddai.

"Mae'n galluogi awdurdod lleol i ddarparu gwasanaeth ffôn nad yw'n gyflawn, rhywbeth nad oedd Deddf Iaith 1993 yn ei ganiatau.

"Os yw hynny wir yn bosibiliad, mae'r Prif Weinidog wedi torri ei addewid i beidio â chynnig opsiynau sy'n llai na'r hyn a gynigir gan gynlluniau iaith.

"Mae hefyd enghreifftiau yn y ddogfen lle mae'n rhaid optio mewn i wasanaeth Cymraeg, yn hytrach na'i fod yn digwydd yn ddi-ofyn."

Mewn datganiad mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y safonau yn ffordd i wneud yn siwr bod y cyhoedd yn cael gwasanaethau yn y Gymraeg i'r safon maen nhw'n disgwyl.

Cam pwysig

Maen nhw hefyd yn dweud na fydd y Prif Weinidog yn gwneud sylw pellach tra bod y Comisiynydd Cymraeg yn craffu arnynt.

"Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei Ddatganiad Ysgrifenedig ddydd Llun, mae'r safonau arfaethedig yn gam pwysig yn y broses o wireddu ein gweledigaeth o wella gwasanaethau Cymraeg i ddinasyddion.

"Y cam nesaf yw i Gomisiynydd y Gymraeg geisio barn ar y safonau arfaethedig, gan eu defnyddio fel sail i ymchwiliad safonau gyda'r awdurdodau lleol, y Parciau Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru.

"Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno â Chomisiynydd y Gymraeg na fydd yn gwneud unrhyw sylwadau am y safonau yn ystod yr ymchwiliad."

Er bod pobl yn dymuno defnyddio gwasanaethau Cymraeg mae rhai yn teimlo'n lletchwith ynglŷn â gofyn amdano.

Rwystredigaeth

Yn ôl cyfarwyddwr Cymru Dyfodol Defnyddwyr, Rhys Evans, mae hyn yn gallu bod yn rhwystredig - i'r cwmniau sy'n darparu'r gwasanaeth yn ogystal â'r defnyddwyr.

"Mae ein hymchwil yn awgrymu nad yw gwasanaethau Cymraeg yn aml wedi eu darparu mewn ffordd sy'n annog defnydd ohonynt," meddai.

"Gall hyn arwain at rwystredigaeth ymysg defnyddwyr sy'n teimlo nad yw gwasanaethau'n cwrdd â'u hanghenion iaith, ac ar gyfer darparwyr sy'n profi defnydd îs na'r disgwyl o'u gwasanaethau Cymraeg.

"Enghraifft o hyn yw sefydliadau'n cynhyrchu cynnwys Cymraeg ar eu gwefannau ac yna'n cuddio'r ddolen at y cynnwys hwnnw mewn rhywle anelwig ar yr hafan, neu'n cyflogi person dwyieithog yn bwrpasol i wasanaethu'r cyhoedd heb ddwyn sylw defnyddwyr at sgiliau Cymraeg y person."