Gwrthdrawiad: Anafu pedwar yng Nghaerffili

Mae pedwar yn yr ysbyty oherwydd gwrthdrawiad rhwng dau gar ar Heol y Mynydd, Caerffili.

Cafodd yr A469 ei chau am gyfnod.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans: "Fe gawson ni alwad am 12.53pm ... cafodd car ymateb cyflym, tri ambiwlans a hofrennydd Helimed eu hanfon.

"Mae'r pedwar yn Ysbyty'r Brifysgol, Caerdydd."