Llofrudd April, Mark Bridger, ddim am apelio yn erbyn dedfryd

Mark Bridger Image copyright Police
Image caption Mi gafodd Mark Bridger ei ddedfrydu i garchar am oes ym mis Mai

Mae Mark Bridger, gafodd ei garcharu am oes am lofruddio plentyn, wedi penderfynu peidio â gwneud cais am ganiatâd i apelio yn erbyn ei ddedfryd.

Mi oedd y dyn 47 oed wedi gwneud cais ac roedd disgwyl i'r gwrandawiad fod ar Ionawr 24.

Ond mae'r Swyddfa Gyfiawnder wedi cadarnhau na fydd yn apelio.

Ym mis Mai penderfynodd rheithgor fod Bridger wedi llofruddio'r ferch bump oed, April Jones o Fachynlleth.

Roedd yn euog o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy guddio a chael gwared ar gorff y ferch yn anghyfreithlon.

Straeon perthnasol