Racing Metro 13-19 Scarlets

Mike Phillips of Racing Metro is tackled by Rob McCusker of Scarlets Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd hi'n fuddugoliaeth haeddiannol i dîm y Sosban yn erbyn y Racing Metro gydag asgellwr y tîm o Gymru Kristian Phillips yn sgorio cais unigol trawiadol.

Dyma'r fuddugoliaeth gyntaf i'r clwb o Gymru oddi cartref ers mis Tachwedd yn y gêm Cwpan Heineken.

Ac mi lwyddodd y Scarlets i wrthsefyll pwysau mawr gan y clwb o Baris am yr ugain munud olaf.

Roedd hi yn edrych y byddai Racing Metro yn trechu'r tîm o Gymru ar y cychwyn gyda hannerwyr y Llewod Jonny Sexton a Mike Phillips yn serennu.

Ond fe chwaraeodd pum blaen y Scarlets gêm gofiadwy yn erbyn blaenwyr mawr y Ffrancwyr. Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod gan y Scarlets siawns bychan o fynd trwodd i rownd nesaf y gystadleuaeth.

Straeon perthnasol