Caerdydd yn arwyddo Dæhli

Mats Møller Dæhli Image copyright BBC Sport
Image caption Fe gafodd Dæhli gynnig i ail ymuno â Manchester United ond roedd yn awyddus i weithio gyda Solskjær

Mae Caerdydd wedi arwyddo Mats Møller Dæhli o gyn glwb y rheolwr newydd Ole Gunnar Solskjær.

Dæhli, 18, yw'r ail chwaraewr i'r dyn o Norwy arwyddo ers iddo symud i brifddinas Cymru yn dilyn diswyddiad Malky Mackay.

Mae Solskjær yn credu y gallai Dæhli, sy'n chwarae yng nghanol cae, ddatblygu i fod yn un o'r chwaraewyr gorau yn Uwch Gynghrair Lloegr.

"Mae'n dalent rhagorol," meddai'r rheolwr. "Bydd yn 19 ym mis Mawrth ac mae newydd chwarae ei gêm gyntaf i Norwy felly bydd yn dod ag egni, brwdfrydedd a'i reolaeth ar y bêl i'r clwb.

"Dydw i ddim eisiau ei gymharu â gormod o chwaraewyr gan roi pwysau arno ond mae'n chwaraewr canol cae, mae'n hoffi gweithio rhwng y llinellau a herio pobl.

"Mae'n chwaraewr ar gyfer y dyfodol. Rydych yn gweld y Samir Nasris a'r David Silvas, mewn ychydig o flynyddol pwy a ŵyr lle fydd Mats yn darganfod ei hun?"

Yn ôl Solskjær roedd Caerdydd eisoes yn ystyried ei arwyddo ac roedd eu sgowtiaid wedi bod yn Norwy'n ei weld yn chwarae.

Fe weithiodd y ddau efo'i gilydd yn Manchester United cyn i'r ddau symud i Molde.

Straeon perthnasol