Dedfrydu lleidr o Gaergybi i garchar

Llys y Goron, Caernarfon
Image caption Fe gafodd John Wyn Owens ei ddedfrydu i 46 mis o garchar.

Mae dyn o Gaergybi â hanes hir o dorri'r gyfraith ar Ynys Môn ei ddedfrydu i garchar.

Yn Llys y Goron Caernarfon fe gafodd John Wyn Owens, 40 oed, ei garcharu am 46 mis ar ôl pledio'n euog i dorri i mewn i dŷ yn y dre' ym mis Tachwedd 2013.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Catrin Hughes o CID Llangefni eu bod wrth eu bodd gyda'r ddedfryd a bod yr ymchwiliad yn fanwl iawn.

"Roedd y dystiolaeth fforensig a gasglwyd o'r safle yn hollbwysig i ni fedru dwyn achos o ladrata.

Hanes hir o ladrata

"Mae gan Owens hanes hir o dorcyfraith, gan gynnwys sawl dedfryd flaenorol o ladrata ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn hyd ei ddedfryd y tro hwn.

"Rhaid i mi bwysleisio bod lladrata gyda'r nos o dai lle mae rhywun gartref ar y pryd yn brin iawn yn y gogledd ond pan mae nhw'n digwydd mae'r ymchwiliadau yn fanwl ac yn eang."