Dwy ganrif ers sefydlu'r papur newydd Cymraeg cyntaf

  • 18 Ionawr 2014
Joseph Harris
Joseph Harris, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, sefydlodd Seren Gomer yn 1814

Mae cyfres o ddigwyddiadau yn ardal Abertawe yn ystod mis Ionawr i nodi 200 mlynedd ers cyhoeddi'r papur newydd Cymraeg cyntaf, Seren Gomer.

Cafodd y papur wythnosol ei sefydlu gan Joseph "Gomer" Harris ar Ionawr 1, 1814.

Prif nod y papur oedd adrodd newyddion am Gymru gyfan yn ogystal â thramor.

Roedd yn cynnwys straeon gwleidyddol, masnachol, diwydiannol a chrefyddol, yn ogystal ag erthyglau llenyddol.

Er gwaetha' ei lwyddiant, daeth y cyhoeddiad i ben fel wythnosolyn ar ôl 85 rhifyn yn bennaf oherwydd costau argraffu a threthi uchel a'r ffaith nad oedd yn denu digon o hysbysebwyr.

Cafodd ei gyhoeddi bob pythefnos yn ddiweddarach cyn gorffen ei oes fel cylchgrawn chwarterol dan ofal y Bedyddwyr.

Grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi trefnu'r digwyddiadau, sy'n cynnwys cyfres o ddarlithoedd gan yr Athro Emeritws Prys Morgan.

'Arloesi'

Dywedodd ei bod yn bwysig iawn nodi'r garreg filltir: "Rhaid cofio fod Abertawe ei hun ar dri achlysur wedi bod yn arloesi o ran hanes y wasg yng Nghymru.

"Yn gynta' i gyd yn 1804 cyhoeddwyd y papur newyddion Saesneg yng Nghymru - y Cambrian - wedyn Seren Gomer yn 1814.

"Ac yn 1861 daeth y papur dyddiol cynta' i Gymru, y Cambrian Daily Leader, tua wyth mlynedd cyn y Western Mail yn 1869."

Roedd Joseph Harris wedi symud o Sir Benfro i Abertawe ble daeth yn weinidog gyda'r Bedyddwyr.

Roedd ganddo ddiddordeb mewn argraffu a chyhoeddi wedi iddo gyhoeddi sawl casgliad o emynau.

Papur seciwlar

Stryd Tontine, Abertawe
Mae'r stryd ble roedd teulu Joseph Harris yn byw yn dal i'w gweld yn Abertawe

Ychwanegodd Dr Morgan: "Roedd y ffaith fod y dosbarth canol yn Abertawe wedi casglu digon o gyfalaf i gyhoeddi'r Cambrian yn 1804 yn cryfhau dymuniad Joseph i gyhoeddi rhywbeth yn Gymraeg.

"Roedd sawl peth yn wreiddiol yn syniad Joseph. Roedd nifer o bobl wedi ceisio sefydlu papurau yn y de a ddim wedi llwyddo.

"Roedd ei fab, John Ryland Harris (Ieuan Ddu), yn hynod athrylithgar ac rwy'n meddwl mai ei syniad e fel plentyn oedd cael papur seciwlar oedd ddim yn enwadol na dim."

Ond roedd 'na anawsterau mawr wrth gyhoeddi'r papur yn wythnosol yn 1814 - doedd dim digon o bapur ac roedd yr argraffu'n gostus iawn. Roedden nhw hefyd yn gorfod talu llawer o dreth i'r llywodraeth.

"Doedd y llywodraeth ar y pryd ddim eisiau i'r werin bobl ddarllen papur newydd mewn difri," meddai Dr Morgan.

Geirfa newydd

"Ar ôl methu fel wythnosolyn fe ailddechreuodd Seren Gomer yn 1818 fel papur pob pythefnos cyn newid yn fisolyn," meddai.

"Falle mai un person ym mhob pentre' oedd yn gallu fforddio prynu copi a phan oedd y copi hwnnw'n cyrraedd, roedd pawb yn casglu o gwmpas y tŷ hwnnw a rhywun yn ei ddarllen i'r pentre' cyfan.

"Roedd yn gylchgrawn oedd yn trafod newyddion y dydd - priodasau, brwydrau, llywodraethau, er enghraifft.

"Roedd 'na hefyd drafodaethau am farddoniaeth a geirfa i'r Gymraeg.

"Roedd rhaid cael gair am ohebydd, golygydd, proflenni, adolygu, pleidlais, tanysgrifwyr ac yn y blaen. Roedd Seren Gomer wedi creu geirfa newydd i'r Gymraeg.

Arwain y ffordd

"Does dim dwywaith fod Joseph Harris yn arloeswr. Fe geisiodd roi diwylliant y byd i Gymry Cymraeg a cheisio'u cael nhw i drafod hyn drwy'r Gymraeg.

"Roedd y cylchgrawn wedi dangos sut allai Cymru ymuno a mynd tu hwnt i raniadau sectyddol, gan uno'r tu ôl i ddiwylliant ac iaith.

"Oni bai am Seren Gomer ... byddai wedi bod yn anoddach i wasg seciwlar fel Gwasg Thomas Gee, er enghraifft, ddatblygu."

Roedd marwolaeth ei fab yn 21 oed yn ergyd drom i Joseph Harris ac fe wnaeth roi'r gorau i gyhoeddi Seren Gomer wedi hynny.

Ar ôl ei farwolaeth yntau yn 1825, gwerthwyd y papur i gyhoeddwr yng Nghaerfyrddin a daeth yn gylchgrawn chwarterol i'r Bedyddwyr.

Cafodd y rhifyn ola' ei gyhoeddi yn 1983.

Bydd sgwrs 'The Birth of Seren Gomer' gan Dr Prys Morgan yn Llyfrgell Abertawe ddydd Sadwrn,Ionawr 18 am 2:00yh, gyda darlith Gymraeg yn Nhŷ Tawe nos Iau, Ionawr 30, am 7:30yh.